Luc 23:34-39 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

34. A'r Iesu a ddywedodd, O Dad, maddau iddynt: canys ni wyddant pa beth y maent yn ei wneuthur. A hwy a ranasant ei ddillad ef, ac a fwriasant goelbren.

35. A'r bobl a safodd yn edrych. A'r penaethiaid hefyd gyda hwynt a watwarasant, gan ddywedyd, Eraill a waredodd efe; gwareded ef ei hun, os hwn yw Crist, etholedig Duw.

36. A'r milwyr hefyd a'i gwatwarasant ef, gan ddyfod ato, a chynnig iddo finegr,

37. A dywedyd, Os tydi yw Brenin yr Iddewon, gwared dy hun.

38. Ac yr ydoedd hefyd arysgrifen wedi ei hysgrifennu uwch ei ben ef, รข llythrennau Groeg, a Lladin, a Hebraeg, HWN YW BRENIN YR IDDEWON.

39. Ac un o'r drwgweithredwyr a grogasid a'i cablodd ef, gan ddywedyd, Os tydi yw Crist, gwared dy hun a ninnau.

Luc 23