Luc 21:28-38 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

28. A phan ddechreuo'r pethau hyn ddyfod, edrychwch i fyny, a chodwch eich pennau: canys y mae eich ymwared yn nesáu.

29. Ac efe a ddywedodd ddameg iddynt; Edrychwch ar y ffigysbren, a'r holl brennau;

30. Pan ddeiliant hwy weithian, chwi a welwch ac a wyddoch ohonoch eich hun, fod yr haf yn agos.

31. Felly chwithau, pan weloch y pethau hyn yn digwydd, gwybyddwch fod teyrnas Dduw yn agos.

32. Yn wir meddaf i chwi, Nid â'r oes hon heibio, hyd oni ddêl y cwbl i ben.

33. Y nef a'r ddaear a ânt heibio; ond fy ngeiriau i nid ânt heibio ddim.

34. Ac edrychwch arnoch eich hunain, rhag i'ch calonnau un amser drymhau trwy lythineb, a meddwdod, a gofalon y bywyd hwn, a dyfod y dydd hwnnw arnoch yn ddisymwth;

35. Canys efe a ddaw, fel magl, ar warthaf pawb oll a'r sydd yn trigo ar wyneb yr holl ddaear.

36. Gwyliwch gan hynny a gweddïwch bob amser, ar gael eich cyfrif yn deilwng i ddianc rhag y pethau hyn oll sydd ar ddyfod, ac i sefyll gerbron Mab y dyn.

37. A'r dydd yr ydoedd efe yn athrawiaethu yn y deml; a'r nos yr oedd efe yn myned ac yn aros yn y mynydd a elwid yr Olewydd.

38. A'r holl bobl a foregyrchent ato ef yn y deml, i'w glywed ef.

Luc 21