Luc 2:49-52 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

49. Ac efe a ddywedodd wrthynt, Paham y ceisiech fi? oni wyddech fod yn rhaid i mi fod ynghylch y pethau a berthyn i'm Tad?

50. A hwy ni ddeallasant y gair a ddywedasai efe wrthynt.

51. Ac efe a aeth i waered gyda hwynt, ac a ddaeth i Nasareth, ac a fu ostyngedig iddynt. A'i fam ef a gadwodd yr holl eiriau hyn yn ei chalon.

52. A'r Iesu a gynyddodd mewn doethineb a chorffolaeth, a ffafr gyda Duw a dynion.

Luc 2