Luc 19:23-28 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

23. A phaham na roddaist fy arian i i'r bwrdd cyfnewid, fel, pan ddaethwn, y gallaswn ei gael gyda llog?

24. Ac efe a ddywedodd wrth y rhai oedd yn sefyll gerllaw, Dygwch oddi arno ef y bunt, a rhoddwch i'r hwn sydd รข deg punt ganddo;

25. (A hwy a ddywedasant wrtho, Arglwydd, y mae ganddo ef ddeg punt;)

26. Canys yr wyf fi yn dywedyd i chwi, mai i bob un y mae ganddo, y rhoddir iddo; eithr oddi ar yr hwn nid oes ganddo, y dygir oddi arno, ie, yr hyn sydd ganddo.

27. A hefyd fy ngelynion hynny, y rhai ni fynasent i mi deyrnasu arnynt, dygwch hwynt yma, a lleddwch ger fy mron i.

28. Ac wedi iddo ddywedyd y pethau hyn, efe a aeth o'r blaen, gan fyned i fyny i Jerwsalem.

Luc 19