Luc 18:16-18 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

16. Eithr yr Iesu a'u galwodd hwynt ato, ac a ddywedodd, Gadewch i'r plant bychain ddyfod ataf fi, ac na waherddwch hwynt: canys eiddo'r cyfryw rai yw teyrnas Dduw.

17. Yn wir meddaf i chwi, Pwy bynnag ni dderbynio deyrnas Dduw fel dyn bach, nid รข efe i mewn iddi.

18. A rhyw lywodraethwr a ofynnodd iddo, gan ddywedyd, Athro da, wrth wneuthur pa beth yr etifeddaf fi fywyd tragwyddol?

Luc 18