Luc 16:6-14 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

6. Ac efe a ddywedodd, Can mesur o olew. Ac efe a ddywedodd wrtho, Cymer dy ysgrifen, ac eistedd ar frys, ac ysgrifenna ddeg a deugain.

7. Yna y dywedodd wrth un arall, A pha faint o ddyled sydd arnat tithau? Ac efe a ddywedodd, Can mesur o wenith. Ac efe a ddywedodd wrtho, Cymer dy ysgrifen, ac ysgrifenna bedwar ugain.

8. A'r arglwydd a ganmolodd y goruchwyliwr anghyfiawn, am iddo wneuthur yn gall: oblegid y mae plant y byd hwn yn gallach yn eu cenhedlaeth na phlant y goleuni.

9. Ac yr wyf yn dywedyd i chwi, Gwnewch i chwi gyfeillion o'r mamon anghyfiawn: fel, pan fo eisiau arnoch, y'ch derbyniont i'r tragwyddol bebyll.

10. Y neb sydd ffyddlon yn y lleiaf, sydd ffyddlon hefyd mewn llawer; a'r neb sydd anghyfiawn yn y lleiaf, sydd anghyfiawn hefyd mewn llawer.

11. Am hynny, oni buoch ffyddlon yn y mamon anghyfiawn, pwy a ymddiried i chwi am y gwir olud?

12. Ac oni buoch ffyddlon yn yr eiddo arall, pwy a rydd i chwi yr eiddoch eich hun?

13. Ni ddichon un gwas wasanaethu dau arglwydd: canys naill ai efe a gasâ y naill, ac a gâr y llall; ai efe a lŷn wrth y naill, ac a ddirmyga'r llall. Ni ellwch wasanaethu Duw a mamon.

14. A'r Phariseaid hefyd, y rhai oedd ariangar, a glywsant y pethau hyn oll, ac a'i gwatwarasant ef.

Luc 16