Luc 14:10-17 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

10. Eithr pan y'th wahodder, dos ac eistedd yn y lle isaf; fel pan ddelo'r hwn a'th wahoddodd di, y gallo efe ddywedyd wrthyt, Y cyfaill, eistedd yn uwch i fyny: yna y bydd i ti glod yng ngŵydd y rhai a eisteddant gyda thi ar y bwrdd.

11. Canys pob un a'r a'i dyrchafo ei hun, a ostyngir; a'r hwn sydd yn ei ostwng ei hun, a ddyrchefir.

12. Ac efe a ddywedodd hefyd wrth yr hwn a'i gwahoddasai ef, Pan wnelych ginio neu swper, na alw dy gyfeillion, na'th frodyr, na'th geraint, na'th gymdogion goludog; rhag iddynt hwythau eilchwyl dy wahodd dithau, a gwneuthur taledigaeth i ti.

13. Eithr pan wnelych wledd, galw'r tlodion, yr efryddion, y cloffion, y deillion:

14. A dedwydd fyddi; am nad oes ganddynt ddim i dalu i ti: canys fe a delir i ti yn atgyfodiad y rhai cyfiawn.

15. A phan glywodd rhyw un o'r rhai oedd yn eistedd ar y bwrdd y pethau hyn, efe a ddywedodd wrtho, Gwyn ei fyd y neb a fwytao fara yn nheyrnas Dduw.

16. Ac yntau a ddywedodd wrtho, Rhyw ŵr a wnaeth swper mawr, ac a wahoddodd lawer:

17. Ac a ddanfonodd ei was bryd swper, i ddywedyd wrth y rhai a wahoddasid, Deuwch; canys weithian y mae pob peth yn barod.

Luc 14