Luc 12:45-56 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

45. Eithr os dywed y gwas hwnnw yn ei galon, Y mae fy arglwydd yn oedi dyfod; a dechrau curo'r gweision a'r morynion, a bwyta ac yfed, a meddwi:

46. Daw arglwydd y gwas hwnnw mewn dydd nad yw efe yn disgwyl, ac ar awr nad yw efe yn gwybod, ac a'i gwahana ef, ac a esyd ei ran ef gyda'r anffyddloniaid.

47. A'r gwas hwnnw, yr hwn a wybu ewyllys ei arglwydd, ac nid ymbaratôdd, ac ni wnaeth yn ôl ei ewyllys ef, a gurir â llawer ffonnod.

48. Eithr yr hwn ni wybu, ac a wnaeth bethau yn haeddu ffonodiau, a gurir ag ychydig ffonodiau. Ac i bwy bynnag y rhoddwyd llawer, llawer a ofynnir ganddo; a chyda'r neb y gadawsant lawer, ychwaneg a ofynnant ganddo.

49. Mi a ddeuthum i fwrw tân ar y ddaear: a pheth a fynnaf os cyneuwyd ef eisoes?

50. Eithr y mae gennyf fedydd i'm bedyddio ag ef; ac mor gyfyng yw arnaf hyd oni orffenner!

51. Ydych chwi yn tybied mai heddwch y deuthum i i'w roddi ar y ddaear? nage, meddaf i chwi; ond yn hytrach ymrafael:

52. Canys bydd o hyn allan bump yn yr un tŷ wedi ymrannu, tri yn erbyn dau, a dau yn erbyn tri.

53. Y tad a ymranna yn erbyn y mab, a'r mab yn erbyn y tad, y fam yn erbyn y ferch, a'r ferch yn erbyn y fam; y chwegr yn erbyn ei gwaudd, a'r waudd yn erbyn ei chwegr.

54. Ac efe a ddywedodd hefyd wrth y bobloedd, Pan weloch gwmwl yn codi o'r gorllewin, yn y fan y dywedwch, Y mae cawod yn dyfod: ac felly y mae.

55. A phan weloch y deheuwynt yn chwythu, y dywedwch, Y bydd gwres: ac fe fydd.

56. O ragrithwyr, chwi a fedrwch ddeall wynepryd y ddaear a'r wybr: ond yr amser hwn, pa fodd nad ydych yn ei ddeall?

Luc 12