22. Llefarodd yr Arglwydd hefyd wrth Moses, gan ddywedyd,
23. Llefara wrth feibion Israel, gan ddywedyd, Na fwytewch ddim gwêr eidion, neu ddafad, neu afr.
24. Eto gwêr burgyn, neu wêr ysglyfaeth, a ellir ei weithio mewn pob gwaith; ond gan fwyta na fwytewch ef.
25. Oherwydd pwy bynnag a fwyta o wêr yr anifail, o'r hwn yr offrymir aberth tanllyd i'r Arglwydd; torrir ymaith yr enaid a'i bwytao o fysg ei bobl.
26. Na fwytewch chwaith ddim gwaed o fewn eich cyfanheddau, o'r eiddo aderyn, nac o'r eiddo anifail.
27. Pob enaid a fwytao ddim gwaed, torrir ymaith yr enaid hwnnw o fysg ei bobl.
28. A'r Arglwydd a lefarodd wrth Moses, gan ddywedyd,
29. Llefara wrth feibion Israel, gan ddywedyd, Y neb a offrymo ei aberth hedd i'r Arglwydd, dyged ei rodd o'i aberth hedd i'r Arglwydd.
30. Ei ddwylo a ddygant ebyrth tanllyd yr Arglwydd; y gwêr ynghyd â'r barwyden a ddwg efe; y barwyden fydd i'w chyhwfanu, yn offrwm cyhwfan gerbron yr Arglwydd.
31. A llosged yr offeiriad y gwêr ar yr allor: a bydded y barwyden i Aaron ac i'w feibion.
32. Rhoddwch hefyd y balfais ddeau yn offrwm dyrchafael i'r offeiriad, o'ch ebyrth hedd.
33. Yr hwn o feibion Aaron a offrymo waed yr ebyrth hedd, a'r gwêr; bydded iddo ef yr ysgwyddog ddeau yn rhan.
34. Oherwydd parwyden y cyhwfan, ac ysgwyddog y dyrchafael, a gymerais i gan feibion Israel o'u hebyrth hedd, ac a'u rhoddais hwynt i Aaron yr offeiriad, ac i'w feibion, trwy ddeddf dragwyddol oddi wrth feibion Israel.
35. Hyn yw rhan eneiniad Aaron ac eneiniad ei feibion, o ebyrth tanllyd yr Arglwydd, yn y dydd y nesaodd efe hwynt i offeiriadu i'r Arglwydd;
36. Yr hwn a orchmynnodd yr Arglwydd ei roddi iddynt, y dydd yr eneiniodd efe hwynt allan o feibion Israel, trwy ddeddf dragwyddol, trwy eu cenedlaethau.
37. Dyma gyfraith y poethoffrwm, y bwyd‐offrwm, a'r aberth dros bechod, a'r aberth dros gamwedd, a'r cysegriadau, a'r aberth hedd;
38. Yr hon a orchmynnodd yr Arglwydd wrth Moses ym mynydd Sinai, yn y dydd y gorchmynnodd efe i feibion Israel offrymu eu hoffrymau i'r Arglwydd, yn anialwch Sinai.