Lefiticus 26:37-41 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

37. A syrthiant bawb ar ei gilydd, megis o flaen cleddyf, heb neb yn eu herlid: ac ni ellwch sefyll o flaen eich gelynion.

38. Difethir chwi hefyd ymysg y cenhedloedd, a thir eich gelynion a'ch bwyty.

39. A'r rhai a weddillir ohonoch, a doddant yn eu hanwireddau yn nhir eich gelynion; ac yn anwireddau eu tadau gyda hwynt y toddant.

40. Os cyffesant eu hanwiredd, ac anwiredd eu tadau, ynghyd รข'u camwedd yr hwn a wnaethant i'm herbyn, a hefyd rhodio ohonynt yn y gwrthwyneb i mi;

41. A rhodio ohonof finnau yn eu gwrthwyneb hwythau, a'u dwyn hwynt i dir eu gelynion; os yno yr ymostwng eu calon ddienwaededig, a'u bod yn fodlon am eu cosbedigaeth:

Lefiticus 26