Lefiticus 24:4-8 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

4. Ar y canhwyllbren pur y trefna efe y lampau gerbron yr Arglwydd bob amser.

5. A chymer beilliaid, a phoba ef yn ddeuddeg teisen: dwy ddegfed ran fydd pob teisen.

6. A gosod hwynt yn ddwy res, chwech yn y rhes, ar y bwrdd pur, gerbron yr Arglwydd.

7. A dod thus pur ar bob rhes, fel y byddo ar y bara, yn goffadwriaeth, ac yn aberth tanllyd i'r Arglwydd.

8. Ar bob dydd Saboth y trefna efe hyn gerbron yr Arglwydd bob amser, yn gyfamod tragwyddol oddi wrth feibion Israel.

Lefiticus 24