Lefiticus 24:16-20 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

16. A lladder yn farw yr hwn a felltithio enw yr Arglwydd; yr holl gynulleidfa gan labyddio a'i llabyddiant ef: lladder yn gystal y dieithr a'r priodor, pan gablo efe enw yr Arglwydd.

17. A'r neb a laddo ddyn, lladder yntau yn farw.

18. A'r hwn a laddo anifail, taled amdano; anifail am anifail.

19. A phan wnelo un anaf ar ei gymydog; fel y gwnaeth, gwneler iddo:

20. Toriad am doriad, llygad am lygad, dant am ddant: megis y gwnaeth anaf ar ddyn, felly gwneler iddo yntau.

Lefiticus 24