Lefiticus 24:1-4 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses, gan ddywedyd,

2. Gorchymyn i feibion Israel ddwyn atat olew olewydden pur, coethedig, i'r goleuni, i beri i'r lampau gynnau bob amser.

3. O'r tu allan i wahanlen y dystiolaeth, ym mhabell y cyfarfod, y trefna Aaron ef o hwyr hyd fore, gerbron yr Arglwydd, bob amser. Deddf dragwyddol trwy eich cenedlaethau fydd hyn.

4. Ar y canhwyllbren pur y trefna efe y lampau gerbron yr Arglwydd bob amser.

Lefiticus 24