Lefiticus 22:3-12 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

3. Dywed wrthynt, Pwy bynnag o'ch holl hiliogaeth, trwy eich cenedlaethau, a nesao at y pethau cysegredig a gysegro meibion Israel i'r Arglwydd, a'i aflendid arno; torrir ymaith yr enaid hwnnw oddi ger fy mron: myfi yw yr Arglwydd.

4. Na fwytaed neb o hiliogaeth Aaron o'r pethau cysegredig, ac yntau yn wahanglwyfus, neu yn ddiferllyd, hyd oni lanhaer ef: na'r hwn a gyffyrddo â dim wedi ei halogi wrth y marw, na'r hwn yr êl oddi wrtho ddisgyniad had;

5. Na'r un a gyffyrddo ag un ymlusgiad, trwy yr hwn y gallo fod yn aflan, neu â dyn y byddai aflan o'i blegid, pa aflendid bynnag fyddo arno:

6. A'r dyn a gyffyrddo ag ef, a fydd aflan hyd yr hwyr; ac na fwytaed o'r pethau cysegredig, oddieithr iddo olchi ei gnawd mewn dwfr.

7. A phan fachludo'r haul, glân fydd; ac wedi hynny bwytaed o'r pethau cysegredig: canys ei fwyd ef yw hwn.

8. Ac na fwytaed o ddim wedi marw ei hun, neu wedi ei ysglyfaethu, i fod yn aflan o'i blegid: myfi yw yr Arglwydd.

9. Ond cadwant fy neddf i, ac na ddygant bechod bob un arnynt eu hunain, i farw o'i blegid, pan halogant hi: myfi yw yr Arglwydd eu sancteiddydd hwynt.

10. Ac na fwytaed un alltud o'r peth cysegredig: dieithrddyn yr offeiriad, a'r gwas cyflog, ni chaiff fwyta'r peth cysegredig.

11. Ond pan bryno'r offeiriad ddyn am ei arian, hwnnw a gaiff fwyta ohono, a'r hwn a aner yn ei dŷ ef: y rhai hyn a gânt fwyta o'i fara ef.

12. A merch yr offeiriad, pan fyddo hi eiddo gŵr dieithr, ni chaiff hi fwyta o offrwm y pethau cysegredig.

Lefiticus 22