Lefiticus 20:26-27 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

26. Byddwch chwithau sanctaidd i mi: oherwydd myfi yr Arglwydd ydwyf sanctaidd, ac a'ch neilltuais chwi oddi wrth bobloedd eraill, i fod yn eiddof fi.

27. Gŵr neu wraig a fo ganddynt ysbryd dewiniaeth, neu frud, hwy a leddir yn farw: â cherrig y llabyddiant hwynt; eu gwaed fydd arnynt eu hunain.

Lefiticus 20