Lefiticus 18:4-7 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

4. Fy marnedigaethau i a wnewch, a'm deddfau a gedwch, i rodio ynddynt: myfi yw yr Arglwydd eich Duw.

5. Ie, cedwch fy neddfau a'm barnedigaethau: a'r dyn a'u cadwo, a fydd byw ynddynt: myfi yw yr Arglwydd.

6. Na nesaed neb at gyfnesaf ei gnawd, i ddinoethi eu noethni: myfi yw yr Arglwydd.

7. Noethni dy dad, neu noethni dy fam, na ddinoetha: dy fam yw hi, na ddinoetha ei noethni.

Lefiticus 18