33. A phob llestr pridd yr hwn y syrthio un o'r rhai hyn i'w fewn, aflan fydd yr hyn oll fydd o'i fewn; a thorrwch yntau.
34. Aflan fydd pob bwyd a fwyteir, o'r hwn y dêl dwfr aflan arno; ac aflan fydd pob diod a yfir mewn llestr aflan.
35. Ac aflan fydd pob dim y cwympo dim o'u burgyn arno; y ffwrn a'r badell a dorrir: aflan ydynt, ac aflan fyddant i chwi.
36. Eto glân fydd y ffynnon a'r pydew, lle mae dyfroedd lawer: ond yr hyn a gyffyrddo â'u burgyn, a fydd aflan.
37. Ac os syrth dim o'u burgyn hwynt ar ddim had heuedig, yr hwn a heuir; glân yw efe.
38. Ond os rhoddir dwfr ar yr had, a syrthio dim o'u burgyn hwynt arno ef; aflan fydd efe i chwi.
39. Ac os bydd marw un anifail a'r sydd i chwi yn fwyd; yr hwn a gyffyrddo â'i furgyn ef, a fydd aflan hyd yr hwyr.
40. A'r hwn a fwyty o'i furgyn ef, golched ei ddillad; a bydded aflan hyd yr hwyr; a'r hwn a ddygo ei furgyn ef, golched ei ddillad; a bydded aflan hyd yr hwyr.
41. A phob ymlusgiad a ymlusgo ar y ddaear, fydd ffieidd‐dra: na fwytaer ef.
42. Pob peth a gerddo ar ei dor, a phob peth a gerddo ar bedwar troed, a phob peth aml ei draed, o bob ymlusgiad a ymlusgo ar y ddaear, na fwytewch hwynt: canys ffieidd‐dra ydynt.
43. Na wnewch eich eneidiau yn ffiaidd oblegid un ymlusgiad a ymlusgo, ac na fyddwch aflan o'u plegid, fel y byddech aflan o'u herwydd.
44. Oherwydd myfi yw yr Arglwydd eich Duw chwi: ymsancteiddiwch a byddwch sanctaidd; oherwydd sanctaidd ydwyf fi: ac nac aflanhewch eich eneidiau wrth un ymlusgiad a ymlusgo ar y ddaear.
45. Canys myfi yw yr Arglwydd, yr hwn a'ch dug chwi o dir yr Aifft, i fod yn Dduw i chwi: byddwch chwithau sanctaidd; canys sanctaidd ydwyf fi.
46. Dyma gyfraith yr anifeiliaid, a'r ehediaid, a phob peth byw a'r sydd yn ymsymud yn y dyfroedd, ac am bob peth byw a'r sydd yn ymlusgo ar y ddaear;
47. I wneuthur gwahan rhwng yr aflan a'r glân, a rhwng yr anifail a fwyteir a'r hwn nis bwyteir.