Josua 7:9-17 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

9. Canys y Canaaneaid, a holl drigolion y wlad, a glywant, ac a'n hamgylchynant, ac a dorrant ymaith ein henw oddi ar y ddaear: a pha beth a wnei i'th enw mawr?

10. A'r Arglwydd a ddywedodd wrth Josua, Cyfod; paham yr ydwyt yn gorwedd fel hyn ar dy wyneb?

11. Israel a bechodd, a throseddasant fy nghyfamod a orchmynnais iddynt: cymerasant hefyd o'r diofryd‐beth, lladratasant, a gwadasant; gosodasant hefyd hynny ymysg eu dodrefn eu hun.

12. Am hynny ni ddichon meibion Israel sefyll yn wyneb eu gelynion, eithr troant eu gwar o flaen eu gelynion; am eu bod yn ysgymunbeth: ni byddaf mwyach gyda chwi, oni ddifethwch yr ysgymunbeth o'ch mysg.

13. Cyfod, sancteiddia y bobl, a dywed, Ymsancteiddiwch erbyn yfory: canys fel hyn y dywed Arglwydd Dduw Israel; Diofryd‐beth sydd yn dy blith di, O Israel: ni elli sefyll yn wyneb dy elynion, nes tynnu ymaith y diofryd‐beth o'ch mysg.

14. Am hynny nesewch y bore wrth eich llwythau: a'r llwyth a ddalio yr Arglwydd, nesaed bob yn deulu; a'r teulu a ddalio yr Arglwydd, nesaed bob yn dŷ; a'r tŷ a ddalio yr Arglwydd, nesaed bob yn ŵr.

15. A'r hwn a ddelir a'r diofryd‐beth ganddo, a losgir â thân, efe ac oll sydd ganddo: oherwydd iddo droseddu cyfamod yr Arglwydd, ac oherwydd iddo wneuthur ynfydrwydd yn Israel.

16. Felly Josua a gyfododd yn fore, ac a ddug Israel wrth eu llwythau: a llwyth Jwda a ddaliwyd.

17. Ac efe a ddynesodd deulu Jwda; a daliwyd teulu y Sarhiaid: ac efe a ddynesodd deulu y Sarhiaid bob yn ŵr; a daliwyd Sabdi:

Josua 7