Josua 24:29-33 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

29. Ac wedi'r pethau hyn, y bu farw Josua mab Nun, gwas yr Arglwydd, yn fab dengmlwydd a chant.

30. A hwy a'i claddasant ef yn nherfyn ei etifeddiaeth, o fewn Timnath‐sera; yr hon sydd ym mynydd Effraim, o du y gogledd i fynydd Gaas.

31. Ac Israel a wasanaethodd yr Arglwydd holl ddyddiau Josua, a holl ddyddiau yr henuriaid a fu fyw ar ôl Josua, ac a wybuasent holl waith yr Arglwydd a wnaethai efe er Israel.

32. Ac esgyrn Joseff, y rhai a ddygasai meibion Israel i fyny o'r Aifft, a gladdasant hwy yn Sichem, mewn rhan o'r maes a brynasai Jacob gan feibion Hemor tad Sichem, er can darn o arian; a bu i feibion Joseff yn etifeddiaeth.

33. Ac Eleasar mab Aaron a fu farw: a chladdasant ef ym mryn Phinees ei fab, yr hwn a roddasid iddo ef ym mynydd Effraim.

Josua 24