Josua 24:21-27 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

21. A'r bobl a ddywedodd wrth Josua, Nage; eithr ni a wasanaethwn yr Arglwydd.

22. A dywedodd Josua wrth y bobl, Tystion ydych yn eich erbyn eich hun, ddewis ohonoch i chwi yr Arglwydd i'w wasanaethu. Dywedasant hwythau, Tystion ydym.

23. Am hynny yn awr (eb efe) bwriwch ymaith y duwiau dieithr sydd yn eich mysg, a gostyngwch eich calon at Arglwydd Dduw Israel.

24. A'r bobl a ddywedasant wrth Josua, Yr Arglwydd ein Duw a wasanaethwn, ac ar ei lais ef y gwrandawn.

25. Felly Josua a wnaeth gyfamod รข'r bobl y dwthwn hwnnw, ac a osododd iddynt ddeddfau a barnedigaethau yn Sichem.

26. A Josua a ysgrifennodd y geiriau hyn yn llyfr cyfraith Dduw, ac a gymerth faen mawr, ac a'i gosododd i fyny yno dan dderwen oedd yn agos i gysegr yr Arglwydd.

27. A Josua a ddywedodd wrth yr holl bobl, Wele, y maen hwn fydd yn dystiolaeth i ni; canys efe a glywodd holl eiriau yr Arglwydd, y rhai a lefarodd efe wrthym: am hynny y bydd efe yn dystiolaeth i chwi, rhag i chwi wadu eich Duw.

Josua 24