8. A chyn iddynt hwy gysgu, hi a aeth i fyny atynt hwy ar nen y tŷ:
9. A hi a ddywedodd wrth y gwŷr, Mi a wn roddi o'r Arglwydd i chwi y wlad; oherwydd eich arswyd chwi a syrthiodd arnom ni, a holl drigolion y wlad a ddigalonasant rhag eich ofn.
10. Canys ni a glywsom fel y sychodd yr Arglwydd ddyfroedd y môr coch o'ch blaen chwi, pan ddaethoch allan o'r Aifft; a'r hyn a wnaethoch i ddau frenin yr Amoriaid, y rhai oedd tu hwnt i'r Iorddonen, sef i Sehon ac i Og, y rhai a ddifrodasoch chwi.
11. A phan glywsom, yna y'n digalonnwyd, fel na safodd mwyach gysur yn neb, rhag eich ofn: canys yr Arglwydd eich Duw, efe sydd Dduw yn y nefoedd uchod, ac ar y ddaear isod.