Josua 15:1-3 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. A rhandir llwyth meibion Jwda, yn ôl eu teuluoedd, ydoedd tua therfyn Edom: anialwch Sin, tua'r deau, oedd eithaf y terfyn deau.

2. A therfyn y deau oedd iddynt hwy o gwr y môr heli, o'r graig sydd yn wynebu tua'r deau.

3. Ac yr oedd yn myned allan o'r deau hyd riw Acrabbim, ac yr oedd yn myned rhagddo i Sin, ac yn myned i fyny o du y deau i Cades‐Barnea; ac yn myned hefyd i Hesron, ac yn esgyn i Adar, ac yn amgylchynu i Carcaa.

Josua 15