Josua 14:2-9 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

2. Wrth goelbren yr oedd eu hetifeddiaeth hwynt; fel y gorchmynasai yr Arglwydd trwy law Moses eu rhoddi i'r naw llwyth, ac i'r hanner llwyth.

3. Canys Moses a roddasai etifeddiaeth i ddau lwyth, ac i hanner llwyth, o'r tu hwnt i'r Iorddonen; ond i'r Lefiaid ni roddasai efe etifeddiaeth yn eu mysg hwynt;

4. Canys meibion Joseff oedd ddau lwyth, Manasse ac Effraim: am hynny ni roddasant ran i'r Lefiaid yn y tir, ond dinasoedd i drigo, a'u meysydd pentrefol i'w hanifeiliaid, ac i'w golud.

5. Fel y gorchmynasai yr Arglwydd i Moses, felly y gwnaeth meibion Israel, a hwy a ranasant y wlad.

6. Yna meibion Jwda a ddaethant at Josua yn Gilgal: a Chaleb mab Jeffunne y Cenesiad a ddywedodd wrtho ef, Tydi a wyddost y gair a lefarodd yr Arglwydd wrth Moses gŵr Duw o'm plegid i, ac o'th blegid dithau, yn Cades‐Barnea.

7. Mab deugain mlwydd oeddwn i pan anfonodd Moses gwas yr Arglwydd fi o Cades‐Barnea, i edrych ansawdd y wlad; a mi a ddygais air iddo ef drachefn, fel yr oedd yn fy nghalon.

8. Ond fy mrodyr, y rhai a aethant i fyny gyda mi, a ddigalonasant y bobl: eto myfi a gyflawnais fyned ar ôl yr Arglwydd fy Nuw.

9. A Moses a dyngodd y diwrnod hwnnw, gan ddywedyd, Diau y bydd y wlad y sathrodd dy droed arni, yn etifeddiaeth i ti, ac i'th feibion hyd byth; am i ti gyflawni myned ar ôl yr Arglwydd fy Nuw.

Josua 14