Josua 11:9-18 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

9. A Josua a wnaeth iddynt fel yr archasai yr Arglwydd iddo: llinynnau garrau eu meirch hwynt a dorrodd efe, a'u cerbydau a losgodd â thân.

10. A Josua y pryd hwnnw a ddychwelodd, ac a enillodd Hasor, ac a drawodd ei brenin hi â'r cleddyf: canys Hasor o'r blaen oedd ben yr holl deyrnasoedd hynny.

11. Trawsant hefyd bob enaid a'r oedd ynddi â min y cleddyf, gan eu difrodi hwynt: ni adawyd un perchen anadl: ac efe a losgodd Hasor â thân.

12. A holl ddinasoedd y brenhinoedd hynny, a'u holl frenhinoedd hwynt, a enillodd Josua, ac a'u trawodd â min y cleddyf, gan eu difrodi hwynt: megis y gorchmynasai Moses gwas yr Arglwydd.

13. Ond ni losgodd Israel yr un o'r dinasoedd oedd yn sefyll yn eu cadernid; namyn Hasor yn unig a losgodd Josua.

14. A holl anrhaith y dinasoedd hynny, a'r anifeiliaid, a ysglyfaethodd meibion Israel iddynt eu hun: yn unig pob dyn a drawsant hwy â min y cleddyf, nes iddynt eu difetha; ni adawsant berchen anadl.

15. Fel y gorchmynasai yr Arglwydd i Moses ei was, felly y gorchmynnodd Moses i Josua, ac felly y gwnaeth Josua; ni adawodd efe ddim o'r hyn oll a orchmynasai yr Arglwydd i Moses.

16. Felly Josua a enillodd yr holl dir hwnnw, y mynyddoedd, a'r holl ddeau, a holl wlad Gosen, a'r dyffryn, a'r gwastadedd, a mynydd Israel, a'i ddyffryn;

17. O fynydd Halac, yr hwn sydd yn myned i fyny i Seir, hyd Baal‐Gad, yng nglyn Libanus, dan fynydd Hermon: a'u holl frenhinoedd hwynt a ddaliodd efe; trawodd hwynt hefyd, ac a'u rhoddodd i farwolaeth.

18. Josua a gynhaliodd ryfel yn erbyn yr holl frenhinoedd hynny ddyddiau lawer.

Josua 11