Josua 10:9-15 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

9. Josua gan hynny a ddaeth yn ddiatreg atynt hwy: canys ar hyd y nos yr aeth efe i fyny o Gilgal.

10. A'r Arglwydd a'u drylliodd hwynt o flaen Israel, ac a'u trawodd hwynt â lladdfa fawr yn Gibeon, ac a'u hymlidiodd hwynt ffordd yr eir i fyny i Beth‐horon, ac a'u trawodd hwynt hyd Aseca, ac hyd Macceda.

11. A phan oeddynt yn ffoi o flaen Israel, a hwy yng ngoriwaered Beth‐horon, yr Arglwydd a fwriodd arnynt hwy gerrig mawrion o'r nefoedd hyd Aseca; a buant feirw: amlach oedd y rhai a fu feirw gan y cerrig cenllysg, na'r rhai a laddodd meibion Israel â'r cleddyf.

12. Llefarodd Josua wrth yr Arglwydd y dydd y rhoddodd yr Arglwydd yr Amoriaid o flaen meibion Israel: ac efe a ddywedodd yng ngolwg Israel, O haul, aros yn Gibeon; a thithau, leuad, yn nyffryn Ajalon.

13. A'r haul a arhosodd, a'r lleuad a safodd, nes i'r genedl ddial ar eu gelynion. Onid yw hyn yn ysgrifenedig yn llyfr yr Uniawn? Felly yr haul a safodd yng nghanol y nefoedd, ac ni frysiodd i fachludo dros ddiwrnod cyfan.

14. Ac ni bu y fath ddiwrnod â hwnnw o'i flaen ef, nac ar ei ôl ef, fel y gwrandawai yr Arglwydd ar lef dyn: canys yr Arglwydd a ymladdodd dros Israel.

15. A Josua a ddychwelodd, a holl Israel gydag ef, i'r gwersyll i Gilgal.

Josua 10