18. A dywedodd Josua, Treiglwch feini mawrion ar enau yr ogof, a gosodwch wrthi wŷr i'w cadw hwynt:
19. Ac na sefwch chwi; erlidiwch ar ôl eich gelynion, a threwch y rhai olaf ohonynt; na adewch iddynt fyned i'w dinasoedd: canys yr Arglwydd eich Duw a'u rhoddodd hwynt yn eich llaw chwi.
20. A phan ddarfu i Josua a meibion Israel eu taro hwynt â lladdfa fawr iawn, nes eu difa; yna y gweddillion a adawsid ohonynt a aethant i'r dinasoedd caerog.
21. A'r holl bobl a ddychwelasant i'r gwersyll at Josua ym Macceda mewn heddwch, heb symud o neb ei dafod yn erbyn meibion Israel.
22. A Josua a ddywedodd, Agorwch enau yr ogof, a dygwch allan y pum brenin hynny ataf fi o'r ogof.
23. A hwy a wnaethant felly, ac a ddygasant allan y pum brenin ato ef o'r ogof; sef brenin Jerwsalem, brenin Hebron, brenin Jarmuth, brenin Lachis, a brenin Eglon.