Jona 2:1-4 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. A Jona a weddïodd ar yr Arglwydd ei Dduw o fol y pysgodyn,

2. Ac a ddywedodd, O'm hing y gelwais ar yr Arglwydd, ac efe a'm hatebodd; o fol uffern y gwaeddais, a chlywaist fy llef.

3. Ti a'm bwriaist i'r dyfnder, i ganol y môr; a'r llanw a'm hamgylchodd: dy holl donnau a'th lifeiriaint a aethant drosof.

4. A minnau a ddywedais, Bwriwyd fi o ŵydd dy lygaid; er hynny mi a edrychaf eto tua'th deml sanctaidd.

Jona 2