15. Yr haul a'r lloer a dywyllant, a'r sêr a ataliant eu llewyrch.
16. A'r Arglwydd a rua o Seion, ac a rydd ei lef o Jerwsalem; y nefoedd hefyd a'r ddaear a grynant: ond yr Arglwydd fydd gobaith ei bobl, a chadernid meibion Israel.
17. Felly y cewch wybod mai myfi yw yr Arglwydd eich Duw, yn trigo yn Seion, fy mynydd sanctaidd: yna y bydd Jerwsalem yn sanctaidd, ac nid â dieithriaid trwyddi mwyach.
18. A'r dydd hwnnw y bydd i'r mynyddoedd ddefnynnu melyswin, a'r bryniau a lifeiriant o laeth, a holl ffrydiau Jwda a redant gan ddwfr, a ffynnon a ddaw allan o dŷ yr Arglwydd, ac a ddyfrha ddyffryn Sittim.