Joel 2:24-26 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

24. A'r ysguboriau a lenwir o ŷd, a'r gwin newydd a'r olew a â dros y llestri.

25. A mi a dalaf i chwi y blynyddoedd a ddifaodd y ceiliog rhedyn, pryf y rhwd, a'r locust, a'r lindys, fy llu mawr i, yr hwn a anfonais yn eich plith.

26. Yna y bwytewch, gan fwyta ac ymddigoni; ac y moliennwch enw yr Arglwydd eich Duw, yr hwn a wnaeth â chwi yn rhyfedd: ac ni waradwyddir fy mhobl byth.

Joel 2