Job 5:14-18 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

14. Lliw dydd y cyfarfyddant â thywyllwch, a hwy a balfalant hanner dydd megis lliw nos.

15. Yr hwn hefyd a achub y tlawd rhag y cleddyf, rhag eu safn hwy, a rhag llaw y cadarn.

16. Felly y mae gobaith i'r tlawd, ac anwiredd yn cau ei safn.

17. Wele, gwyn ei fyd y dyn a geryddo Duw; am hynny na ddiystyra gerydd yr Hollalluog.

18. Canys efe a glwyfa, ac a rwym: efe a archolla, a'i ddwylo ef a iachânt.

Job 5