Job 5:10-16 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

10. Yr hwn sydd yn rhoddi glaw ar wyneb y ddaear; ac yn danfon dyfroedd ar wyneb y meysydd:

11. Gan osod rhai isel mewn uchelder; fel y dyrchefir y galarus i iachawdwriaeth.

12. Efe sydd yn diddymu amcanion y cyfrwys, fel na allo eu dwylo ddwyn dim i ben.

13. Efe sydd yn dal y doethion yn eu cyfrwystra: a chyngor y cyndyn a ddiddymir.

14. Lliw dydd y cyfarfyddant รข thywyllwch, a hwy a balfalant hanner dydd megis lliw nos.

15. Yr hwn hefyd a achub y tlawd rhag y cleddyf, rhag eu safn hwy, a rhag llaw y cadarn.

16. Felly y mae gobaith i'r tlawd, ac anwiredd yn cau ei safn.

Job 5