Job 41:28-31 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

28. Ni phair saeth iddo ffoi: cerrig tafl a droed iddo yn sofl.

29. Picellau a gyfrifir fel soflyn; ac efe a chwardd wrth ysgwyd gwaywffon.

30. Dano ef y bydd megis darnau llymion o lestri pridd: efe a daena bethau llymion ar hyd y clai.

31. Efe a wna i'r dyfnder ferwi fel crochan: efe a esyd y môr fel crochan o ennaint.

Job 41