Job 38:24-29 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

24. Pa ffordd yr ymranna goleuni, yr hwn a wasgar y dwyreinwynt ar y ddaear?

25. Pwy a rannodd ddyfrlle i'r llifddyfroedd? a ffordd i fellt y taranau,

26. I lawio ar y ddaear lle ni byddo dyn; ar yr anialwch, sydd heb ddyn ynddo?

27. I ddigoni y tir diffaith a gwyllt, ac i beri i gnwd o laswellt dyfu?

28. A oes dad i'r glaw? neu pwy a genhedlodd ddefnynnau y gwlith?

29. O groth pwy y daeth yr iâ allan? a phwy a genhedlodd lwydrew y nefoedd?

Job 38