Job 38:14-18 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

14. Canys hi a ymnewidia fel clai y sêl; a hwy a safant fel dillad.

15. Ac atelir eu goleuni oddi wrth yr annuwiol: dryllir y braich dyrchafedig.

16. A ddaethost ti i eigion y môr? ac a rodiaist ti yng nghilfachau y dyfnder?

17. A agorwyd pyrth marwolaeth i ti? neu a welaist ti byrth cysgod angau?

18. A ystyriaist ti led y ddaear? mynega, os adwaenost ti hi i gyd.

Job 38