Job 36:1-4 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Ac Elihu a aeth rhagddo, ac a ddywedodd,

2. Goddef i mi ychydig, a myfi a fynegaf i ti, fod gennyf ymadroddion eto dros Dduw.

3. O bell y cymeraf fy ngwybodaeth, ac i'm Gwneuthurwr y rhoddaf gyfiawnder.

4. Canys yn wir nid celwydd fydd fy ymadroddion: y perffaith o wybodaeth sydd gyda thi.

Job 36