Job 34:10-27 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

10. Am hynny chwychwi wŷr calonnog, gwrandewch arnaf. Pell oddi wrth Dduw fyddo gwneuthur annuwioldeb, ac oddi wrth yr Hollalluog weithredu anwiredd.

11. Canys efe a dâl i ddyn ei waith; ac efe a wna i ŵr gael yn ôl ei ffyrdd ei hun.

12. Diau hefyd na wna Duw yn annuwiol; ac na ŵyra yr Hollalluog farn.

13. Pwy a roddes iddo ef lywodraethu y ddaear? a phwy a osododd yr holl fyd?

14. Os gesyd ei galon ar ddyn, os casgl efe ato ei hun ei ysbryd a'i anadl ef;

15. Pob cnawd a gyd‐drenga, a dyn a ddychwel i'r pridd.

16. Ac od oes ddeall ynot, gwrando hyn: clustymwrando â llef fy ymadroddion.

17. A gaiff yr hwn sydd yn casáu barn, lywodraethu? ac a ferni di yr hwn sydd gyfiawn odiaeth, yn annuwiol?

18. A ddywedir wrth frenin, Drygionus ydwyt? ac, Annuwiol ydych, wrth dywysogion?

19. Pa faint llai wrth yr hwn ni dderbyn wynebau tywysogion, ac nid edwyn y goludog o flaen y tlawd? canys gwaith ei ddwylo ef ydynt oll.

20. Hwy a fyddant feirw mewn moment, a hanner nos y cynhyrfa y bobl, ac yr ânt ymaith: a'r cadarn a symudir heb waith llaw.

21. Canys ei lygaid ef sydd ar ffyrdd dyn ac efe a wêl ei holl gamre ef.

22. Nid oes dywyllwch, na chysgod angau, lle y gall y rhai sydd yn gweithio anwiredd, ymguddio.

23. Canys ni esyd Duw ar ddyn ychwaneg nag a haeddo; fel y gallo efe fyned i gyfraith â Duw.

24. Efe a ddryllia rai cedyrn yn aneirif, ac a esyd eraill yn eu lle hwynt.

25. Am hynny efe a edwyn eu gweithredoedd hwy: a phan newidio efe y nos, hwy a ddryllir.

26. Efe a'u tery hwynt, megis rhai annuwiol, yn amlwg:

27. Am iddynt gilio oddi ar ei ôl ef, ac nad ystyrient ddim o'i ffyrdd ef:

Job 34