14. Canys y mae Duw yn llefaru unwaith, ie, ddwywaith; ond ni ddeall dyn.
15. Trwy hun, a thrwy weledigaeth nos, pan syrthio trymgwsg ar ddynion, wrth hepian ar wely;
16. Yna yr egyr efe glustiau dynion, ac y selia efe addysg iddynt:
17. I dynnu dyn oddi wrth ei waith, ac i guddio balchder oddi wrth ddyn.
18. Y mae efe yn cadw ei enaid ef rhag y pwll; a'i hoedl ef rhag ei cholli trwy y cleddyf.
19. Ac efe a geryddir trwy ofid ar ei wely; a lliaws ei esgyrn ef รข gofid caled:
20. Fel y ffieiddio ei fywyd ef fara, a'i enaid fwyd blasus.