Job 3:22-26 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

22. Y rhai a lawenychant mewn hyfrydwch, ac a orfoleddant, pan gaffont y bedd?

23. Paham y rhoddir goleuni i'r dyn y mae ei ffordd yn guddiedig, ac y caeodd Duw arno?

24. Oblegid o flaen fy mwyd y daw fy uchenaid; a'm rhuadau a dywelltir megis dyfroedd.

25. Canys yr hyn a fawr ofnais a ddaeth arnaf, a'r hyn a arswydais a ddigwyddodd i mi.

26. Ni chefais na llonydd nac esmwythdra, ac ni orffwysais: er hynny daeth cynnwrf.

Job 3