Job 24:2-4 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

2. Y mae rhai yn symudo terfynau; yn ysglyfaethu defaid, ac yn ymborthi arnynt.

3. Y maent yn gyrru asynnod yr amddifad ymaith: maent yn cymryd ych y wraig weddw ar wystl.

4. Maent yn troi yr anghenog allan o'r ffordd: tlodion y ddaear a ymgydlechant.

Job 24