Job 22:2-16 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

2. A wna gŵr lesâd i Dduw, fel y gwna y synhwyrol lesâd iddo ei hun?

3. Ai digrifwch ydyw i'r Hollalluog dy fod di yn gyfiawn? neu ai elw dy fod yn perffeithio dy ffyrdd?

4. Ai rhag dy ofn y cerydda efe dydi? neu yr â efe gyda thi i farn?

5. Onid ydyw dy ddrygioni di yn aml? a'th anwireddau heb derfyn?

6. Canys cymeraist wystl gan dy frawd yn ddiachos; a diosgaist ddillad y rhai noethion.

7. Ni roddaist ddwfr i'w yfed i'r lluddedig; a thi a ateliaist fara oddi wrth y newynog.

8. Ond y gŵr cadarn, efe bioedd y ddaear; a'r anrhydeddus a drigai ynddi.

9. Danfonaist ymaith wragedd gweddwon yn waglaw; a breichiau y rhai amddifaid a dorrwyd.

10. Am hynny y mae maglau o'th amgylch, ac ofn disymwth yn dy ddychrynu di;

11. Neu dywyllwch rhag gweled ohonot: a llawer o ddyfroedd a'th orchuddiant.

12. Onid ydyw Duw yn uchelder y nefoedd? gwêl hefyd uchder y sêr, mor uchel ydynt.

13. A thi a ddywedi, Pa fodd y gŵyr Duw? a farn efe trwy'r cwmwl tywyll?

14. Y tew gymylau sydd loches iddo, ac ni wêl; ac y mae efe yn rhodio ar gylch y nefoedd.

15. A ystyriaist di yr hen ffordd a sathrodd y gwŷr anwir?

16. Y rhai a dorrwyd pan nid oedd amser; afon a dywalltwyd ar eu sylfaen hwy.

Job 22