15. Y rhai oedd yn trigo yn fy nhŷ, a'm morynion, sydd yn fy nghyfrif yn ddieithr: alltud ydwyf yn eu golwg.
16. Gelwais ar fy ngwasanaethwr, ac nid atebodd; ymbiliais ag ef â'm genau.
17. Dieithr oedd fy anadl i'm gwraig, er ymbil ohonof â hi er mwyn fy mhlant o'm corff.
18. Plant hefyd a'm diystyrent: cyfodais, a dywedasant i'm herbyn.
19. Fy holl gyfrinachwyr sydd yn fy ffieiddio: a'r rhai a gerais a droesant yn fy erbyn.