Job 18:5-11 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

5. Ie, goleuni yr annuwiolion a ddiffoddir, a gwreichionen ei dân ef ni lewyrcha.

6. Goleuni a dywylla yn ei luesty ef; a'i lusern a ddiffydd gydag ef.

7. Camre ei gryfder ef a gyfyngir, a'i gyngor ei hun a'i bwrw ef i lawr.

8. Canys efe a deflir i'r rhwyd erbyn ei draed, ac ar faglau y rhodia efe.

9. Magl a ymeifl yn ei sawdl ef, a'r gwylliad fydd drech nag ef.

10. Hoenyn a guddied iddo ef yn y ddaear, a magl iddo ar y llwybr.

11. Braw a'i brawycha ef o amgylch, ac a'i gyr i gymryd ei draed.

Job 18