Job 18:13-17 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

13. Efe a ysa gryfder ei groen ef: cyntaf‐anedig angau a fwyty ei gryfder ef.

14. Ei hyder ef a dynnir allan o'i luesty: a hynny a'i harwain ef at frenin dychryniadau.

15. Efe a drig yn ei luest ef, am nad eiddo ef ydyw: brwmstan a wasgerir ar ei drigfa ef.

16. Ei wraidd a sychant oddi tanodd, a'i frig a dorrir oddi arnodd.

17. Ei goffadwriaeth a gollir o'r ddaear, ac ni bydd enw iddo ar wyneb yr heol.

Job 18