16. Oblegid ti a ollyngi dy ofid dros gof: fel dyfroedd y rhai a aethant heibio y cofi ef.
17. Dy oedran hefyd a fydd disgleiriach na hanner dydd; llewyrchi, a byddi fel y boreddydd.
18. Hyderus fyddi hefyd, oherwydd bod gobaith: ie, ti a gloddi, ac a orweddi mewn diogelwch.
19. Ti a orweddi hefyd, ac ni bydd a'th ddychryno, a llawer a ymbiliant รข'th wyneb.
20. Ond llygaid yr annuwiolion a ddiffygiant, metha ganddynt ffoi, a'u gobaith fydd fel ymadawiad yr enaid.