4. Gochelwch bawb ei gymydog, ac na choelied neb ei frawd: canys pob brawd gan ddisodli a ddisodla, a phob cymydog a rodia yn dwyllodrus.
5. Pob un hefyd a dwylla ei gymydog, a'r gwir nis dywedant: hwy a ddysgasant eu tafodau i ddywedyd celwydd, ymflinasant yn gwneuthur anwiredd.
6. Dy drigfan sydd yng nghanol twyll: oherwydd twyll y gwrthodasant fy adnabod i, medd yr Arglwydd.
7. Am hynny fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd; Wele fi yn eu toddi hwynt, ac yn eu profi hwynt: canys pa wedd y gwnaf oherwydd merch fy mhobl?
8. Saeth lem yw eu tafod hwy, yn dywedyd twyll: รข'i enau y traetha un heddwch wrth ei gymydog, eithr o'i fewn y gesyd gynllwyn iddo.