19. Gwrando, tydi y ddaear; wele fi yn dwyn drygfyd ar y bobl hyn, sef ffrwyth eu meddyliau eu hunain; am na wrandawsant ar fy ngeiriau, na'm cyfraith, eithr gwrthodasant hi.
20. I ba beth y daw i mi thus o Seba, a chalamus peraidd o wlad bell? eich poethoffrymau nid ydynt gymeradwy, ac nid melys eich aberthau gennyf.
21. Am hynny fel hyn y dywed yr Arglwydd, Wele fi yn rhoddi tramgwyddiadau i'r bobl hyn, fel y tramgwyddo wrthynt y tadau a'r meibion ynghyd; cymydog a'i gyfaill a ddifethir.