Jeremeia 52:24-29 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

24. A phennaeth y milwyr a gymerodd Seraia yr archoffeiriad, a Seffaneia yr ail offeiriad, a'r tri oedd yn cadw y drws.

25. Ac efe a gymerodd o'r ddinas ystafellydd, yr hwn oedd swyddog ar y rhyfelwyr; a seithwyr o weision pennaf y brenin, y rhai a gafwyd yn y ddinas; a phen-ysgrifennydd y llu, yr hwn a fyddai yn byddino pobl y wlad; a thri ugeinwr o bobl y wlad, y rhai a gafwyd yng nghanol y ddinas.

26. A Nebusaradan pennaeth y milwyr a gymerodd y rhai hyn, ac a aeth รข hwynt i Ribla, at frenin Babilon.

27. A brenin Babilon a'u trawodd hwynt, ac a'u lladdodd hwynt yn Ribla, yng ngwlad Hamath. Fel hyn y caethgludwyd Jwda o'i wlad ei hun.

28. Dyma y bobl a gaethgludodd Nebuchodonosor yn y seithfed flwyddyn, tair mil a thri ar hugain o Iddewon.

29. Yn y ddeunawfed flwyddyn i Nebuchodonosor efe a gaethgludodd o Jerwsalem wyth gant a deuddeg ar hugain o ddynion.

Jeremeia 52