Jeremeia 52:13-18 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

13. Ac efe a losgodd dŷ yr Arglwydd, a thŷ y brenin; a holl dai Jerwsalem, a phob tŷ mawr, a losgodd efe â thân.

14. A holl lu y Caldeaid y rhai oedd gyda phennaeth y milwyr, a ddrylliasant holl furiau Jerwsalem o amgylch.

15. Yna Nebusaradan pennaeth y milwyr a gaethgludodd rai o'r bobl wael, a'r gweddill o'r bobl a adawsid yn y ddinas, a'r ffoaduriaid a giliasent at frenin Babilon, a'r gweddill o'r bobl.

16. Ond Nebusaradan pennaeth y milwyr a adawodd rai o dlodion y wlad yn winllanwyr ac yn arddwyr.

17. A'r Caldeaid a ddrylliasant y colofnau pres y rhai oedd yn nhŷ yr Arglwydd, a'r ystolion, a'r môr pres yr hwn oedd yn nhŷ yr Arglwydd; a hwy a ddygasant eu holl bres hwynt i Babilon.

18. A hwy a ddygasant ymaith y crochanau, a'r rhawiau, a'r saltringau, a'r cawgiau, a'r thuserau, a'r holl lestri pres, y rhai yr oeddid yn gwasanaethu â hwynt.

Jeremeia 52