23. Am Damascus. Hamath ac Arpad a waradwyddwyd; oherwydd hwy a glywsant chwedl drwg; llesmeiriasant; y mae gofal ar y môr heb fedru gorffwys.
24. Damascus a lesgaodd, ac a ymdrŷ i ffoi, ond dychryn a'i goddiweddodd hi; gwasgfa a phoenau a'i daliodd hi fel gwraig yn esgor.
25. Pa fodd na adewir dinas moliant, caer fy llawenydd?
26. Am hynny ei gwŷr ieuainc a syrthiant yn ei heolydd, a'r holl ryfelwyr a ddifethir y dydd hwnnw, medd Arglwydd y lluoedd.
27. A mi a gyneuaf dân ym mur Damascus, ac efe a ddifa lysoedd Benhadad.
28. Am Cedar, ac am deyrnasoedd Hasor, y rhai a ddinistria Nebuchodonosor brenin Babilon, fel hyn y dywed yr Arglwydd; Cyfodwch, ewch i fyny yn erbyn Cedar, ac anrheithiwch feibion y dwyrain.
29. Eu lluestai a'u diadellau a gymerant ymaith; eu llenni, a'u holl lestri, a'u camelod, a gymerant iddynt eu hunain; a hwy a floeddiant arnynt, Y mae ofn o amgylch.
30. Ffowch, ciliwch ymhell, ewch yn isel i drigo, preswylwyr Hasor, medd yr Arglwydd: oherwydd Nebuchodonosor brenin Babilon a gymerodd gyngor yn eich erbyn chwi, ac a fwriadodd fwriad yn eich erbyn chwi.
31. Cyfodwch, ac ewch i fyny at y genedl oludog, yr hon sydd yn trigo yn ddiofal, medd yr Arglwydd, heb ddorau na barrau iddi; wrthynt eu hunain y maent yn trigo.
32. A'u camelod a fydd yn anrhaith, a'u minteioedd anifeiliaid yn ysbail, a mi a wasgaraf tua phob gwynt y rhai sydd yn y conglau eithaf; a myfi a ddygaf o bob ystlys iddi eu dinistr hwynt, medd yr Arglwydd.