34. O floedd Hesbon hyd Eleale, a hyd Jahas, y llefasant, o Soar hyd Horonaim, fel anner deirblwydd: canys dyfroedd Nimrim a fyddant anghyfannedd.
35. Mi a wnaf hefyd ballu ym Moab, medd yr Arglwydd, yr hwn sydd yn offrymu mewn uchelfeydd, a'r hwn sydd yn arogldarthu i'w dduwiau.
36. Am hynny y lleisia fy nghalon am Moab fel pibellau, ac am wŷr Cir‐heres y lleisia fy nghalon fel pibellau; oblegid darfod y golud a gasglodd.
37. Oblegid pob pen a fydd moel, a phob barf a dorrir; ar bob llaw y bydd rhwygiadau, ac am y llwynau, sachliain.
38. Ar holl bennau tai Moab, a'i heolydd oll, y bydd alaeth: oblegid myfi a dorraf Moab fel llestr heb hoffter ynddo, medd yr Arglwydd.
39. Hwy a udant, gan ddywedyd, Pa fodd y bwriwyd hi i lawr! pa fodd y trodd Moab ei gwar trwy gywilydd! Felly Moab a fydd yn watwargerdd, ac yn ddychryn i bawb o'i hamgylch.